Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog dros y Gymraeg wedi cyhoeddi na fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda Safonau Comisiynydd y Gymraeg.

Bu Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws yn ymgynghori’r llynedd ar y Safonau yr oedd disgwyl i gyrff gydymffurfio â nhw mewn perthynas â’r Gymraeg. Derbyniodd 261 o ymatebion a chyhoeddodd hi adroddiad ar yr ymgynghoriad.

Ond heddiw mae Leighton Andrews wedi dweud fod y safonau yn “gymhleth” a’i fod yn pryderu nad ydyn nhw’n “rhesymol a chymesur.”

Dywedodd Leighton Andrews fod angen “dull cliriach a symlach” o weithredu safonau a bod rhai’r Comisiynydd yn gam yn ôl o ran lleihau’r baich gweinyddol ar sefydliadau.

Mae bellach am lunio ei safonau ei hun gan ddefnyddio ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg fel sail.

‘Oedi’

Ddiwedd mis Tachwedd 2012 roedd y Comisiynydd Meri Huws wedi cyhoeddi 37 o safonau drafft y byddai disgwyl i gyrff gydymffurfio â nhw.

Mae Leighton Andrews wedi dweud heddiw ei fod yn eu gwrthod nhw ar sail “ystyriaethau polisi  a chyngor cyfreithiol.”

Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo fod amserlen y Comisiynydd ar gyfer cyflwyno’r Safonau yn rhy hir ac yn “achosi oedi hyd at ganol 2015 o leiaf.”

“Byddai oedi o’r fath yn annerbyniol gennyf i,” meddai Leighton Andrews.

“Rwyf yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i’r Gymraeg ac rwyf am weld mwy o bobol yn cael y cyfle i’w defnyddio bob dydd. Rwy’n awyddus iawn i gydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg i adeiladu ar ei hymarfer ymgynghori a cheisio dull cliriach a symlach o sicrhau safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.”

Comisiynydd yn ymateb

Mewn ymateb i’r newydd dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Bydd swyddogion y Gweinidog a swyddogion y Comisiynydd nawr yn bwrw ymlaen i weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi eu gosod er mwyn datblygu set o safonau a fydd yn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.

“Rwy’n croesawu’n fawr ymrwymiad y Gweinidog i weithio tuag at nod o osod y safonau cyn diwedd 2014 a’u gwneud yn benodol gymwys, a hefyd ei awydd i gydweithio â fy swyddfa i er mwyn gwireddu hyn.”

‘Pwysau gan y sector preifat’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu pryder fod pwysau gan gwmnïau mawr wedi arwain at benderfyniad y Llywodraeth.

“Mae hyn yn newyddion drwg,” meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae penderfyniad y Gweinidog i wrthod cyngor y Comisiynydd yn codi cwestiynau mawr – am y broses ac am rôl y Comisiynydd. Pam penodi Comisiynydd ac wedyn anwybyddu ei chyngor arbenigol?

“Wrth reswm, mae’n arwain rhywun at y casgliad bod y Llywodraeth wedi penderfynu bod cyrff ac elw cwmnïau mawrion, fel BT, Nwy Prydain, Arriva, yn bwysicach na’r Gymraeg. A hynny, er gwaethaf canlyniadau’r Cyfrifiad sydd yn dangos bod yr iaith yn wynebu argyfwng.

“Nid siarad am y safonau sydd ei angen ond eu rhoi ar waith – rydym yn pryderu y bydd rhagor o oedi diangen wrth i’r Llywodraeth ail-adrodd ymgynghoriad y Comisiynydd i bob pwrpas.”

‘Sefyllfa anffodus’

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Simon Thomas: “Does dim modd mynd yn ôl ar yr egwyddor graidd yn y Mesur nad oes modd trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ond mae’r sefyllfa anffodus hon yn golygu nad oes gennym safonau newydd dwy flynedd ar ôl pasio’r ddeddf.

“Pleidleisiodd y Cynulliad blaenorol i wella gwasanaethau ar gyfer y Gymraeg. Mae’r ffaith fod y Llywodraeth a’r Comisiynydd Iaith fel petai yn edrych drwy ddau ben gwahanol y telesgop ar y safonau yn golygu y bydd misoedd rhagor o oedi.

“Mae’n rhaid cael eglurhad o beth aeth o’i le a rhaid symud yn ddiymdroi i gael safonau. Mae’n syndod ein bod yn y fath gyfyng gyngor.”