Catherine Gowing
Fe fydd y dyn a lofruddiodd y milfeddyg Catherine Gowing yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw.
Mae Clive Sharp, 46, o Wynedd, wedi cyfaddef llofruddio Catherine Gowing, 37, a ddiflannodd o’i chartref yn New Brighton ym mis Hydref y llynedd.
Roedd wedi bod yn gweithio am 18 mis fel milfeddyg yn Yr Wyddgrug a chafodd yr heddlu eu galw ar ôl iddi fethu a dod i’w gwaith.
Ar ôl ymgyrch gan Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am Catherine Gowing, oedd yn dod o Iwerddon yn wreiddiol, fe ddaethon nhw o hyd i rannau o’i chorff yn Sealand Sir y Fflint ac yng Nghaer.
Mewn gwrandawiad ym mis Ionawr, fe rybuddiodd y barnwr, Mr Ustus Griffith-Williams, y bydd Sharp yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Ond cafodd y gwrandawiad dedfrydu ei ohirio er mwyn i’r barnwr ystyried beth yw’r lleiafswm amser y dylai Sharp dreulio yn y carchar cyn y gall wneud cais am barôl.
Mae disgwyl i aelodau o deulu Catherine Gowing fod yn y llys heddiw.