Dylai  lles a datblygiad y Gymraeg gael ei gydnabod fel rhan greiddiol o ddiffiniad Llywodraeth Cymru o Ddatblygu Cynaliadwy, yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith.

Cafodd hyn ei drafod yng nghynhadledd bolisi gyntaf y mudiad ym Mangor ddoe.

Galwodd y gynhadledd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod lles a datblygiad y Gymraeg yn cael eu cynnwys yn elfennau sylfaenol ar wyneb y Bil Datblygu Cynaliadwy ac hefyd y Bil Cynllunio fydd yn cael ei gyflwyno maes o law.

Daeth dros 60 o bobl i’r gynhadledd a gynhaliwyd ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor a bydd y prif bwyntiau a godwyd yn cael eu cynnwys yn ymateb Dyfodol i’r ymgynghoriad ar y Mesur Datblygu Cynaliadwy.

Nod Dyfodol i’r Iaith yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar bolisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg.