Safle Ocean Heights yn Chwilog
Mae pryder bod nifer cynyddol o safleoedd carafanau statig yn y gogledd yn cael ymestyn eu caniatâd i agor drwy’r flwyddyn.

Er gwaethaf ofnau fod hyn yn gyfystyr ag agor y drws anheddau parhaol i bob pwrpas, mae’n ymddangos bod perchnogion meysydd carafanau’n cael eu cynghori’n broffesiynol gan gyn-swyddog cynllunio y byddan nhw mewn sefyllfa gref i apelio yn erbyn unrhyw wrthodiad.

Oherwydd hyn mae amryw o gynghorau wedi bod yn gyndyn o herio ceisiadau o’r fath, gyda swyddogion yn eu caniatáu heb fynd trwy bwyllgorau cynllunio.

Mae disgwyl y bydd dadlau tanbaid mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun pryd y bydd cais i ymestyn tymor maes carafanau Ocean Hights yn Chwilog yn cael ei drafod am yr ail dro.

Mae’r cynghorwyr eisoes wedi gwrthod y cais, ond mae swyddogion y cyngor yn eu cynghori i’w ganiatáu.

‘Cartrefi parhaol’

Ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu’r cais mae’r aelod lleol dros Chwilog, y Cynghorydd Aled Evans:

“Er mai gofyn am ymestyn tymor gwyliau y mae ceisiadau fel hyn y mae perygl gwirioneddol mai troi cyfleusterau gwyliau’n gartrefi parhaol allasai ddigwydd,” meddai.

“Mae’n wir y byddai amod ‘defnydd gwyliau yn unig’ yn parhau, ond y gwir amdani ydi nad oes gan gynghorau fel Gwynedd yr adnoddau i orfodi hyn.

“Mae’n golygu felly bod, drwy holl siroedd y gogledd, rai cannoedd o aneddiadau parhaol a fyddai’n cael eu gwrthod fel arall, yn cael eu caniatáu drwy’r drws cefn.

“Ac mae’r diffyg gwaith mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd glan-môr am olygu mai pobl wedi ymddeol, neu bobl ddi-waith, fydd yn symud i feysydd carafanau o’r fath – a fydd yn golygu mwy o draul ar wasanaethau cyhoeddus yr ardal.

“Mae llawer o’m hetholwyr yn bryderus hefyd am yr effaith ar y Gymraeg. Roedd fy ward leol i, Llanystymdwy, ymhlith yr ychydig o ardaloedd lle mae’r Gymraeg wedi dal ei thir dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ôl cyfrifiad 2011 – ac un o’m prif amcanion fel cynghorydd ydi sicrhau bod hyn yn parhau.”

‘Rhy barod i gydymffurfio’

Dywedodd ei fod yn siomedig gyda’r hyn y mae’n ei weld fel gor-barodrwydd cynghorau i gydymffurfio ag argymhellion i ganiatáu ceisiadau o’r fath.

“Holl ddiben cael cynghorau lleol ydi bod cynrychiolwyr lleol yn cael gwneud penderfyniadau ar ran eu hetholwyr,” meddai.

“Os ydan ni’n cymryd yr agwedd bod yn rhaid inni ganiatáu ceisiadau dim ond gan fod gynnon ni ofn apêl, pa werth sydd i’n safbwyntiau ni o gwbl? Mae hynny’n troi democratiaeth leol yn ffârs llwyr.”

Pryderon Aelod Cynulliad

Mae Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar, hefyd wedi mynegi pryder am y cais hwn ac am y tueddiad cyffredinol.

Dywedodd fod datblygiadau o’r fath yn cael eu defnyddio fel ffordd hawdd a rhad o ddarparu cartrefi a’i fod yn arwain at broblemau cymdeithasol.

“Mae’r rhain yn breswylwyr parhaol i bob pwrpas nad ydyn nhw’n talu treth cyngor, ond eto’n defnyddio gwasanaethau lleol,” meddai.

Ychwanegodd fod 7,000 yn fwy o bobl ar gofrestrau meddygon teulu yn siroedd Conwy a Dinbych na’r hyn oedd yr ystadegau poblogaeth swyddogol yn ei ddangos.