Y gwalch yn y goeden
Gwyliwr â ‘llygad barcud’ lwyddodd i ddod o hyd i aderfyn ysglyfaethus a fu ar goll am ddyddiau. Roedd y gwalch wedi dianc o’i gartref arferol, ac wedi ei gael ei hun yn sownd ar ben coeden 20 troedfedd – nes iddo gael ei achub.

Unwaith y daeth y gwyliwr o hyd i’r aderyn, fe alwodd y perchennog ar wasanaethau brys Sir Gaerloyw, a ddaeth ar eu hunion i’r safle yn Moorend, Hartbury.

Fe gymrodd hi griw o achubwyr arbenigol a’r gymdeithas er atal creulondeb i anifeiliaid, yr RSPCA, i ryddhau’r aderyn, a’i ddychwelyd i’w berchennog.