Y peiriant llaeth (o dudalen Facebook y busnes)
Mae teulu o Gefn Cribwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dathlu mai nhw ydy’r cyntaf i osod peiriant hunan wasanaeth i werthu llaeth crai ar eu fferm.

Fe gafodd y peiriant ei osod ar fferm y Gelli ac yn ôl un o’r teulu, Beth Granville, roedd yn “benderfyniad mawr” i fynd amdani.

“Yn syml, mae pobol yn gallu dod i’r fferm, codi potel a thalu amdani – mae bron fel godro’r fuwch eich hun,” meddai.

Arallgyfeirio

Dim ond ers rhyw fis y mae’r teulu wedi bod yn gwerthu llaeth crai o’u gyrr o wartheg Ayrshire pur.

Esboniodd Beth Granville fod tipyn o waith wedi’i gynnal i ennill trwydded i werthu’r llaeth heb ei basteureiddio ond fel arall roedd yna beryg y bydden nhw wedi “mynd allan o laeth”.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig arallgyfeirio’r dyddiau hyn a gwneud rhywbeth sy’n eich gwneud yn wahanol i bobol eraill.”