Llun: Prifysgol Bangor
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) wedi galw ar y diwydiant amaeth i fynd i’r afael ag anafiadau a marwolaethau yn gysylltiedig â ffermio.

Yn ôl Cadeirydd CFfI Cymru, Arwel Jones,  mae marwolaethau a “digwyddiadau torcalonnus niferus” wedi dod yn “duedd rhy gyfarwydd” ac mae angen ymdrin â’r broblem.

“Mae darllen am golled arall unwaith eto yn y diwydiant yn dod yn duedd rhy gyfarwydd …  Rydym ni’n gweld achosion o aelodau teulu ddim yn dychwelyd adref wedi diwrnod o waith ar y fferm, a ledled y wlad mae digwyddiadau torcalonnus niferus yn digwydd yn ein cymuned,” meddai.

Eleni, mae 14 o farwolaethau wedi bod, yn gysylltiedig â pheiriannau, trin a thrafod da byw, cerbydau ffermydd yn symud a byrnau gwellt yn disgyn.

Hybu diogelwch

Er mwyn mynd i’r afael a’r broblem hyn mae CFfI Cymru yn bwriadu annog cyfres o weithgareddau i bwysleisio pwysigrwydd diogelwch ar y fferm.

Bydd aelodau yn cael eu hannog i gynnal cyfarfodydd diogelwch ar y fferm er mwyn gwella ymwybyddiaeth ohono.

Hefyd bydd pob ffederasiwn sirol y mudiad, yn cynnal cystadleuaeth Effeithlonrwydd â Diogelwch yn flynyddol, lle fydd yn rhaid i ffermwyr ifanc ymateb i ddamweiniau ffug.

“Mae’n rhaid i’r neges ynghylch dychwelyd adref yn ddiogel fod yn flaenllaw ym meddwl pawb, ac os gallwn ni fel ffermwyr ifanc newid agweddau ymhlith yr ifanc a sicrhau fod diogelwch ffermydd yn rhywbeth mor naturiol â gwisgo gwregys wrth eistedd ar sedd car, gobeithio y gallwn ni weld diwedd i’r newyddion trist hyn,” medd Arwel Jones.