Traphont Pontcysyllte
Mae gwaith adnewyddu ar un o safleoedd treftadaeth y byd yn golygu y bydd thraphont Pontcysyllte ger Llangollen yn cau am dair wythnos.

O heddiw ymlaen, fe fydd y llwybr i gerddwyr yn cau er mwyn cynnal gwaith adnewyddu ar y draphont.

Fe fydd oriau’r gamlas yn cael eu cyfyngu rhwng Dydd Llun a Sadwrn rhwng 9 y bore a 3 y prynhawn hefyd.

Fe dderbyniodd y draphont ddŵr statws ffurfiol UNESCO am un o safleoedd treftadaeth y byd yn 2006.