Un o'r rhywogaethau sydd dan warchae yn ôl yr arolwg yw'r Gloyn Byw Glas (llun: yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/ Matthew Oates/ PA Wire)
Mae deng mlynedd o dywydd ansefydlog wedi effeithio’n ddrwg ar loynnod byw a gwenyn, yn ôl arolwg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn ôl Matthew Oates, arbenigwr natur a bywyd gwyllt yr Ymddiriedolaeth, mae’r gaeafau mwyn a hafau gwlyb yn arwain at or-dyfiant o laswellt.

Er bod hyn yn gallu bod yn newydd da i ffermwyr o ran porthiant i anifeiliaid, mae’r glaswellt yn mygu planhigion bach a blodau gwyllt y mae gloynnod yn dibynnu arnynt am eu bwyd.

“Rydym wedi cael degawd ansefydlog, gyda llawer o rywogaethau o dan warchae yn sgil newid yn yr hinsawdd ac arferion ffermio dwys,” meddai Matthew Oates.

“Rydym wedi sylwi mai ysbeidiau o dywydd ansefydlog yw’r hyn sy’n arferol bellach.

“Pan ydych chi’n cael tywydd braf yn ystod misoedd yr haf, mae bron yn anochel yn fyrhoedlog ac mae’n ymddangos ein bod yn cael mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol.”