Y Ffair Aeaf (Llun: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru)
Ar ddiwrnod cynta’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw, effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gefn gwlad ac amaethyddiaeth fydd un o’r prif bynciau trafod.

Bydd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies, yn rhoi cyflwyniad i’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant cig coch gan gyhoeddi ei fod yntau’n gadael ei rôl fel cadeirydd ym mis Ebrill 2017.

Bydd yn galw am fwy o drafodaethau am ddyfodol masnach yng Nghymru wedi Brexit gan ddweud, “gydag allforion yn cynrychioli 35% o’n cynnyrch Cig Oen Cymru, mae hynny’n golygu fod bron i draean o’r ddiadell ŵyn Cymreig yn cael ei werthu i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.”

“Rwy’n siŵr y bydd pawb o fewn y diwydiant cig coch yng Nghymru yn cefnogi’r Prif Weinidog a’n Ysgrifennydd Cabinet wrth iddynt ddadlau dros gytundeb deg di-doll ar ôl Brexit.”

Cynllun y Taliad Sylfaenol

Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd bron i 90% o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu talu pan fydd y ffenestr daliadau newydd yn agor ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

Wrth gyhoeddi’r newyddion yn y Ffair Aeaf, cafwyd cadarnhad gan Lesley Griffiths y byddai £173 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon banc 13,176 o ffermwyr Cymru ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr dalu.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Lesley Griffiths:  “Dwi’n falch o gyhoeddi bod Cymru wedi dychwelyd i’w pherfformiad rhagorol arferol, gyda bron i 90% o ffermwyr yn derbyn eu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf.

“Mae’r perfformiad rhagorol hwn wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein bod bellach yn prosesu ceisiadau ar-lein, sydd wedi lleihau biwrocratiaeth, ac wedi  caniatáu i geisiadau gael eu prosesu yn gyflym ac yn effeithiol.  Ni yw’r unig wlad sy’n cynnig dull digidol cyflawn o brosesu’r ceisiadau hyn.”

 ‘Pryderon’

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn trafod goblygiadau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr UE gyda’r diwydiant, ac yn rhoi sicrwydd i ffermwyr ynghylch taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn y dyfodol.

Ychwanegodd: “Bydd pryderon wrth gwrs ynghylch dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol a chynlluniau tebyg o ganlyniad i benderfyniad refferendwm yr UE.  Tra ein bod yn parhau yn aelod o’r UE, bydd y cynllun hwn yn parhau.  Rydym hefyd wedi derbyn sicrwydd gan y Trysorlys y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei ariannu’n llawn tan 2020.”

Y cystadlu

 

Mae mwy na 1,300 o wartheg, defaid, moch a cheffylau wedi cofrestru ar gyfer yr ŵyl ddeuddydd yn Llanelwedd ynghyd â180 o garcasau ŵyn.

Ac mae NFU Cymru eisoes wedi cyhoeddi mai Harri Parri o Fferm Bodnithoedd, Pwllheli ydy enillydd un o’u prif wobrau nhw, sef Pencampwr Da Byw’r Flwyddyn NFU Cymru 2016/17.

“Pwyslais arbennig ein meini prawf ar gyfer y wobr oedd y modd y mae’r ffermwr yn ymgorffori iechyd a diogelwch yn ei weithgareddau o ddydd i ddydd,” meddai Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru.

Fferm wartheg a defaid 725 erw sydd gan Harri Parri  ac mae’n tyfu cnydau fel barlys, maip, meillion coch a cheirch ac yn ddiweddar fe fuddsoddodd mewn tyrbin gwynt, ac mae’n edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi mewn uned ddofednod yn y dyfodol.

‘Prynu bric’

Mae disgwyl hefyd y bydd mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn lansio eu cynllun nhw heddiw i brynu eu hadeilad ar faes y sioe am gost o £76,100 drwy annog aelodau a ffrindiau’r mudiad i brynu bric.