Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am dywydd garw yng Nghymru heddiw wrth i’r glaw a’r gwyntoedd cryfion barhau.
Ac mae de orllewin Cymru wedi cael rhybudd i ‘fod yn barod’ am y posibilrwydd o lifogydd.
Daw hyn wrth i storm Angus barhau i daro’r Deyrnas Unedig, ac yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai gwyntoedd rhwng 40 a 50 milltir yr awr daro Cymru, ac fe allai’r tywydd amharu ar deithwyr.
Mae disgwyl i’r glaw trymaf gyrraedd y de yn ystod y bore a chyrraedd y gogledd erbyn tua chanol dydd.
Fe wnaeth storm Angus achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru ddoe (dydd Sul) ac fe gafodd Pont Hafren yr M48 ei chau am gyfnod oherwydd y tywydd.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub ymateb i nifer o alwadau yn ymwneud â llifogydd ddoe ym Maesteg, Pencoed a Phen-y-bont ar Ogwr.