Mae cwsmeriaid siop Whole Foods yn Kensington, Llundain, wedi cael y cyfle i flasu’r gorau o Gymru mewn ymgyrch farchnata gan Hybu Cig Cymru.

Roedd y siop ffasiynol yn un o ardaloedd mwya’ cyfoethog Llundain yn gwerthu cynnyrch y ffarmwr Rowland Pritchard o gwmni Gower Salt Marsh Lamb, ger Abertawe.

Yn ogystal â chig oen, roedd cig dafad ar werth hefyd, gyda mwy o bobol yn ei gweld yn ffasiynol i fwyta’r cig hwnnw yn dilyn ymgyrch farchnata, ‘Dadeni Cig Dafad’.

“Mae’n ŵyn ni yn cael eu magu ar y corstiroedd yn ardal gogledd Penrhyn Gŵyr. Mae’r amgylchedd naturiol hwn yn rhoi blas godidog i’r cig,” meddai Rowland Pritchard.

“Mwynheais y cyfle i siarad â’r cwsmeriaid yn Llundain am darddiad y cig; mae hi mor bwysig i gynifer o bobol ddod i wybod am ei safon a’i gefndir, a’r safonau uchel sy’n cael eu cynnal ym mhob rhan o’r broses.

“Mae’n glir fod brwdfrydedd mawr am Gig Oen Cymru PGI [Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig] ymhlith cwsmeriaid Llundain. Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i gynyddu gwerthiant, adeiladu ar y berthynas gref sydd gennym, a hwyrach gweld cig dafad ar y silffoedd ochr-yn-ochr â chig oen cyn bo hir.”

Tyfu’r brand yn Llundain

Yn ôl Swyddog Defnyddwyr Hybu Cig Cymru, Elwen Roberts, fod y fenter yn gobeithio tyfu’r brand cig oen o Gymru yn Llundain.

“Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch premiwm, sy’n haeddu ei le ymhlith cynnyrch o safon mewn manwerthwr fel Whole Foods Kensington. Trwy ddigwyddiadau fel hyn ry’n ni’n gobeithio tyfu’r brand ymhellach yn Llundain,” meddai.

“Roedd hefyd yn gyfle da i dynnu sylw at gig dafad o Gymru, a gafodd groeso cynnes gan y rheiny a’i blasodd. Roedd nifer am wybod mwy am sut i goginio’r cig blasus hwn.”