Fe fydd cadwriaethwyr yn symud wiwerod coch o East Anglia i Gymru er mwyn creu cynefin gwyllt newydd yn Nyffryn Ogwen.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant y prosiect i ddisodli’r wiwerod llwyd o Ynys Môn sydd bellach yn cael ei ystyried yn gadarnle i’r wiwer gynhenid.

Ym Môn, fe lwyddwyd i gynyddu poblogaeth y wiwer goch o 40 ym 1998 i dros 700 heddiw.

“Yr ydan ni eisiau dod â mwy o amrywiaeth genetig i’r ardal, mae yna wiwerod yn symud dros y Fenai ond mae hynny ar raddfa fach,” meddai’r cadwriaethwr Dr Craig Shuttleworth.

Mae deg o wiwerod sydd wedi cael ei magu yn swydd Norfolk ymhlith y rhai sy’n cael eu hanfon i Gymru.

“Mae wiwerod coch yn brin iawn yng Nghymru, ac mae wiwerod llwyd wedi achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, ac mae’n iawn i reoli poblogaeth wiwerod llwyd,” meddai Craig Shuttleworth wedyn.