Mae olew cerosin wedi gollwng i mewn i nant yn Sir Gaerfyrddin, gan ladd pysgod a chreaduriaid gwyllt eraill.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n dweud eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad yn Nant Pibwr, Nant-y-caws.

Mae’r asiantaeth yn rhybuddio na ddylai pobol fynd at yr afon i dynnu’r pysgod marw ohoni ac mae gwaith yn cael ei wneud i geisio lleihau’r effaith ar yr amgylchedd ac ar drigolion lleol.

Mae’r ffordd yn Nant-y-caws yn llawer mwy prysur na fel arfer, gan fod ffordd osgoi’r A48 wedi’i chau tan ddiwedd y mis i wneud gwaith atgyweirio pibelli.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw’n gweithio gyda Chyngor Sir Gâr, Dŵr Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu Dyfed Powys i fonitro’r nentydd a’r afonydd lleol.

Mae gorsaf fonitro hefyd wedi cael ei sefydlu ger Ysgol Uwchradd Bro Myrddin, er mwyn mesur yr effaith ar yr ardal, ond does dim tystiolaeth eto bod y digwyddiad wedi cael effaith.

Mae’n bosib, fodd bynnag, y bydd oglau olew yn yr ardal.

Cyngor i bobol leol

“Mae’n annhebygol y bydd unrhyw un sy’n [arogli] olew tanwydd am gyfnod byr yn cael unrhyw effeithiau iechyd hir dymor,” meddai Huw Brunt, Ymgynghorydd Iechyd Amgylcheddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Fodd bynnag, i fod yn ofalus, byddem yn cynghori’r cyhoedd i osgoi dod i gyswllt ag olew neu ddeunydd llygredig.

“Os yw unrhyw un yn cael olew ar eu croen, dylen nhw dynnu eu dillad a golchi gan ddefnyddio sebon a dŵr, ac os ydyn nhw’n teimlo’n sâl, dylen nhw gael sylw meddygol.

“Byddem hefyd yn cynghori bod anifeiliaid anwes yn cael eu cadw o ddŵr lle mae olew i’w weld.

“Dylai unrhyw un sy’n sylwi ar oglau cerosin yn ei dŷ wyntyllu’r ardal a chysylltu â’r awdurdodau.”

Ceisio atal llygredd

Dywedodd Aneurin Cox o Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr asiantaeth yn gwneud “popeth y gallwn” i geisio atal llygredd.

“Mae ein hafonydd yn rhoi cartref i rywogaeth gyfoethog, amrywiol a gwerthfawr o blanhigion ac anifeiliaid, felly mae’n bwysig ein bod yn delio â llygredd cyn gynted â phosib,” meddai.

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn i atal y llygredd a lleihau ei effaith ar bysgod a bywyd gwyllt arall sy’n dibynnu ar yr afon.

“Os bydd unrhyw un yn gweld arwyddion o bysgod marw neu fywyd gwyllt mewn anhawster, neu ag unrhyw wybodaeth, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 807060.”