Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’r trafodaethau ynglŷn â dyfodol amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru wedi’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd..

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru y cyfarfod cyntaf gyda’r Undeb Amaethyddol yng Nghaerdydd ddechrau’r wythnos.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd yr Undeb. “Mae’r sefyllfa’n dipyn o sialens, ond hefyd yn gyfle gwych ar yr un pryd.”

“Mae yna gyfle nawr i ganolbwyntio ar greu ffordd hollol newydd a mwy addas o reoli a chefnogi amaethyddiaeth yma yng Nghymru.  Mae’n rhaid i ni achub ar y cyfle yma a gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib, ac un sy’n cydnabod bod amaethyddiaeth yn hollbwysig.

‘Negeseuon clir iawn’

“Roedd negeseuon clir iawn yn deillio o’r cyfarfod,” meddai Glyn Roberts, gan ychwanegu ei fod yn croesawu’r cyfle i drafod gyda Llywodraeth Cymru.

“Mae llawer o ffermwyr yn poeni am gyflwr ac ymrwymiad i gytundebau presennol ac mae’n rhaid i ni sicrhau eglurder iddyn nhw. Roeddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle i godi’r materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths ac i ofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio derbyn y rhain dros y diwrnodau nesaf.

“Rydym yn gwybod ei bod yn anodd iawn ar hyn o bryd i amlinellu cynllun clir, nid lleiaf oherwydd bod y sefyllfa wleidyddol yn San Steffan yn newid yn gyflym, ond byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau ac adrannau, yn ogystal â’r Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru. Bydd hyn yn cymryd amser, ond rydym yn falch o fod yn rhan o hyn o’r cychwyn cyntaf.”