Safle Wylfa Newydd Llun: Horizon
Mae mudiad PAWB wedi dweud y gall partneriaeth newydd yng nghynllun Wylfa Newydd, olygu y bydd wraniwm o’r safle yn cael ei ddefnyddio i greu arfau niwclear.

Mae’r mudiad, ynghyd â CND, wedi rhybuddio pobol Môn dros gyfraniad cwmni o America, Bechtel, i’r cynllun, gan ei alw’n “llygredig.”

Fodd bynnag, mae Horizon Nuclear, sy’n gyfrifol am gynnal y prosiect o greu’r safle ynni niwclear, gwerth £10 biliwn ym Môn, yn dweud bod yr honiadau yn “hollol ffals.”

Cyhoeddodd cwmni Horizon, mai partneriaeth rhwng Hitachi, cwmni JGC o Siapan a Bechtel, fydd yn gyfrifol am y gwaith.  Ond yn ôl mudiad PAWB gall arwain at fomiau niwclear.

‘Capasiti i greu bomiau’

“Mae’n amlwg iawn eu bod nhw (Bechtel) dros eu pen a’u clustiau yn y diwydiant niwclear sifil a milwrol felly dyw eu record nhw ddim yn un sawrus o bell ffordd,” meddai Dylan Morgan o PAWB wrth golwg360.

“I ddweud y gwir, mae’n amlwg iawn eu bod nhw, dros y blynyddoedd, wedi profi bomiau a gafodd eu defnyddio maes o law yn Hiroshima a Nagasaki.

“Mae ganddyn nhw’r capasiti i greu bomiau, ac maen nhw’n  dal wrthi yn yr Unol Daleithiau, yn parhau ag arbrofion i greu bomiau niwclear.”

Ond er gwaethaf amheuon PAWB, croeso cynnes gafodd y cyhoeddiad gan arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Ieuan Williams, gan ei ddisgrifio fel “cam ymlaen arwyddocaol a phwysig.”

Yn ôl y mudiad, mae geiriau’r Cynghorydd yn “dangos ei ddiffyg ystyriaeth o iechyd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol a’r amgylchedd er budd elw tymor byr.”

‘Dim cysylltiad’ ag arfau niwclear

Ond yn ôl llefarydd Horizon fe fydd Bechtel “yn ffurfio rhan hanfodol o dîm Menter Newydd a fydd yn ein helpu i ddarparu Wylfa Newydd a bydd y swyddi, y sgiliau a’r cytundebau o fewn y gadwyn cyflenwi a ddaw yn ei sgil.

“Nid oes gan brosiect Wylfa Newydd unrhyw gysylltiad mewn unrhyw ffordd gydag arfau niwclear, ac mae honiadau ei fod yn hollol ffals.

“Bydd y prosiect yn cyflenwi trydan glân a diogel ar gyfer oddeutu 500,000 o gartrefi ar draws gogledd Cymru, a pharhau’r cysylltiad hir a llwyddiannus rhwng Ynys Môn a gogledd Cymru gyda’r defnydd heddychlon o ynni niwclear.”

Swyddi i bobol leol

Mae’r mudiad gwrth-niwclear yn amau faint o swyddi lleol fydd ar gael hefyd, gan ddweud y bydd y ddau gwmni o Siapan yn “cael eu gosod yn y llety newydd sydd eisoes yn y broses gynllunio.”

Mae Horizon wedi ymateb drwy ddweud y bydd “rhwng 8,000 a 10,000” o weithwyr ar y safle adeiladu pan fydd “ar ei anterth.”

“Bydd llawer o’r rhain yn lleol, ond rydym wedi bod yn eglur o’r cychwyn y byddai canran o’r gweithlu hwn yn gorfod dod o’r tu hwnt i ogledd Cymru,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Mae lle bydd y gweithlu dros dro yn byw yn dal i fod, wrth gwrs, yn bwnc allweddol i’r gymuned ar Ynys Môn, ac rydym wedi ymgynghori’n eang ar y pwnc.

“Mae’r penderfyniad terfynol ar leoliadau i sefydlu llety i weithwyr adeiladu yn cael eu hystyried, a byddwn yn ymgynghori ar hyn ymhellach yn ystod ein hail gam o ymgynghori ffurfiol yn hwyrach eleni.”

Yn ystod y prosiect, meddai, bydd ‘na 4,500 o swyddi i bobol leol, gyda 850 yn cael eu cyflogi drwy oes yr orsaf.