Bae Caswell, Abertawe Llun: Wicipedia
Traeth ger Abertawe yw’r diweddaraf i atal pobol rhag smygu ar ei lannau, gyda gwaharddiad gwirfoddol yn cael ei gyflwyno gan Gyngor y Ddinas.

Bae Caswell, ger Penrhyn Gŵyr yw’r ail draeth yng Nghymru i gyflwyno gwaharddiad o’r fath, gyda’r traeth di-fwg cyntaf yn Little Haven (Aber Bach) yn Sir Benfro.

Ond mae’r gwaharddiad gwirfoddol yn golygu na fydd yn cael ei orfodi ar ymwelwyr y traethau ac na fydd cosb am dorri’r gwaharddiad.

Arbrawf yw’r gwaharddiad yn ôl Cyngor Abertawe, fel rhan o’i ymgyrch i greu rhagor o ardaloedd di-fwg yn y sir.

Lleihau llygredd

Y nod yw lleihau llygredd a sbwriel ar ei thraethau a darparu ardaloedd mwy glân a mwy iach i bobol, gan gynnwys plant.

Mae bellach gan Abertawe 70 o ardaloedd chwarae i blant di-fwg, er mwyn lleihau’r perygl o fwg ail law.

“Bydd ychwanegu traethau di-fwg yn ein helpu ymhellach i amlygu peryglon smygu a gobeithio’n atal plant rhag dechrau smygu yn y dyfodol,” meddai Cydlynydd Hyrwyddo Iechyd y Cyngor, Chris Steele.

Cadw harddwch naturiol

Croesawodd Prif Weithredwr ASH Cymru y cam, gan ddweud bod 4 triliwn o fonion sigarennau ledled y byd yn cael eu taflu ar lawr bob blwyddyn.

“Bydd gwaharddiad gwirfoddol fan hyn yn cael effaith enfawr ar gadw harddwch naturiol yr ardal drwy leihau sbwriel sy’n llygru ein traethau a’n dyfrffyrdd,” meddai Suzanne Cass.