Mae trigolion pentref Eglwyswrw, sy’n sych o’r diwedd ar ôl 85 diwrnod o law, wedi cael eu rhybuddio bod mwy o law ar y ffordd.

Mae wedi bod yn bwrw’n ddi-baid yn y pentref yn Sir Benfro rhwng 26 Hydref a dydd Mawrth, 19 Ionawr ac roedd pum diwrnod yn brin o dorri’r record Brydeinig a osodwyd yn yr Alban yn 1923.

Serch hynny, dywedodd y Swyddfa Dywydd fod rhagor o law ar y ffordd heddiw a bydd yn parhau heno hefyd.

Roedd pobol leol wedi gobeithio am record ond yn anffodus, bydd hynny ddim yn digwydd.

“Roedd pawb yn y pentref yn dechrau cael digon – hyd yn oed y da byw,” meddai John Davies, sy’n ffarmwr lleol.

“Ar ôl i ni gael sylw yn y wasg am dorri record, roedd yn hwb da ac roedden ni’n meddwl, ‘wel os ydy’n parhau i lawio, byddwn wedi torri record’.

“Roedd yn grêt cael diwrnod sych o’r diwedd ddoe, ond dwi ddim yn disgwyl iddo bara’n hir.”

Mae’r pentref ar dir sydd 423 o droedfeddi uwchben y môr felly does dim tebygolrwydd o lifogydd yn yr ardal.

“Mae rhai ardaloedd yn y Deyrnas Unedig wedi cael hi llawer yn waeth ‘na ni,” ychwanegodd John Davies.