Y dwr yn codi o dan y Bont Fawr yn Llanrwst
Mae rhannau o Gymru dan ddŵr ar ôl i hyd at fodfedd o law trwm ddisgyn ar rannau o Wynedd, Powys, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch mewn rhai ardaloedd gan ddweud wrth y cyhoedd i “ddisgwyl llifogydd.”

Mae’r Bont Fawr a Heol Gwydr yn Llanrwst bellach ar gau, gan nad oes modd ei chroesi oherwydd y lefelau o ddŵr sy’n codi yno.

Mae’r llifogydd ger Llanrwst yn golygu bod y gwasanaeth trên rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael ei atal, a bysiau sydd bellach yn cludo teithwyr.

Ac mae rhybudd coch mewn lle ar gyfer Dolgellau hefyd, gan ddweud bod disgwyl i ddŵr godi ar y maes parcio ger Caffi Marian Mawr yno.

Mae rhybuddion melyn wedi cael eu cyhoeddi i fod “yn barod” am lifogydd yn Ynys Môn, Conwy, Bro Ddyfi a De Sir Benfro.

Yn ôl y rhagolygon, mae’r glaw trwm am barhau drwy’r wythnos.