Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i beth achosodd hyd at 3,000 o bysgod i farw mewn afon yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae hyd at 3,000 o bysgod wedi’u lladd yn Nant Mawr rhwng Rhuthun a Dinbych, a hynny mewn darn tua milltir o hyd.

Mae’r pysgod yn cynnwys brithyll, eogiaid, a llysywod.

Mae’n debygol fod llif yr afon wedi’i atal gan rwystr, ac mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y byddan nhw’n gweithredu yn erbyn unrhyw a fu’n gyfrifol.

“Mae pysgod fel brithyll ac eogiaid yn rhan bwysig o ecoleg ein hafonydd a’n heconomi,” meddai Emyr Jones sy’n arwain yr ymchwiliad.

‘Effaith difrifol’

Mae afon Nant Mawr yn llifo i Glywedog sydd hefyd yn llifo i afon Clwyd, ac mae’n afon bwysig i bysgod genhedlu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ofni y gallai’r digwyddiad hwn adael effaith difrifol ar boblogaeth y pysgod o fewn yr ardal yn y dyfodol.

Mae’r rhwystr bellach wedi ei symud, ac mae llif yr afon wrthi’n dychwelyd i’w lefel arferol, ac mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â chyffwrdd yng nghyrff y pysgod – ac i adael iddyn nhw gael eu golchi i ffwrdd yn naturiol.

“Rydyn ni’n ymchwilio i achos y rhwystr, ac mi fyddwn ni’n ystyried gweithredu yn erbyn unrhyw un a allai fod yn gyfrifol,” ychwanegodd Emyr Jones.