Mae crwner gogledd orllewin Cymru wedi cyhoeddi mai trysor yw darnau arian Llychlynnaidd sydd tua 1,000 o flynyddoedd oed.

Cafodd y celc o arian, sy’n dyddio’n ôl i’r 10fed a’r 11eg ganrif, ei ddarganfod yn Llandwrog ger Caernarfon gan ddyn lleol, Walter Hanks, ym mis Mawrth gan ddefnyddio datgelydd metel.

Mae arbenigwyr yn credu bod yr arian wedi cael ei gladdu yn fwriadol yn y ddaear mewn ymgais i’w gadw’n saff.

Dim ond nawr all y broses o ddarganfod gwerth y trysor ddechrau yn dilyn datgan yr eitemau fel trysor gan grwner Gogledd Orllewin Cymru Dewi Pritchard-Jones. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dod o hyd i drysor ddweud wrth eu crwner lleol o fewn 14 diwrnod neu wynebu cael eu herlyn.

‘Storio arian’

Penderfynwyd bod yr 14 o geiniogau wedi eu bathu yn Nulyn yn ystod teyrnasiad Sihtric Anlafsson (989-1036), llywodraethwr Hiberno-Lychlynnaidd.

Mae wyth o’r darnau arian yn dyddio o tua 995 OC ac mae chwe darn arian arall yn dyddio o tua 1018 OC.

Mae tair neu bedair ceiniog anghyflawn o oes Cnut, Brenin Lloegr (1016-35), hefyd yn rhan o’r celc – gyda phob un ohonynt o fathdy yng Nghaer yn ôl pob tebyg.

Yn ei adroddiad ar y trysor, dywedodd Dr Mark Redknap, pennaeth casgliadau ac ymchwil Adran Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru: “Mae tri ingot cyflawn siâp bys ac un ingot metel siâp bys anghyflawn. Roedd marcio ymylon yr ingotau yn arfer hynafol er mwyn profi eu purdeb, sy’n dystiolaeth y cawsant eu defnyddio mewn trafodion masnachol cyn eu claddu.

“Mae’r rhan hon o’r celc at ei gilydd yn pwyso 115.09g, sef tua 90% o gyfanswm pwysau’r celc (127.77g). Mae hyn yn awgrymu mai storio arian oedd y prif ddiben.”

Amgueddfa Cymru

Dywedodd Amgueddfa Cymru y byddai ganddo ddiddordeb mewn prynu’r darnau arian os oes modd sicrhau cyllid Loteri. Bydd y trysor yn cael ei anfon at yr Amgueddfa Brydeinig i’w cadw’n ddiogel dros dro.

Fel arfer, bydd y pris gwerthu yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr un wnaeth ddarganfod y trysor a’r tirfeddiannwr.