Mae golwg360 ar ddeall bod ffermwyr y gogledd yn bwriadu cynnal protestiadau y tu allan i archfarchnadoedd heno.

Neithiwr fe brotestiodd tua 100 o ffermwyr y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin oedd yn anhapus â faint o gig o dramor oedd yn cael ei werthu yno.

Ac mae’r ffordd mae archfarchnadoedd yn trin ffermwyr ŵyn Cymru yn “chwerthinllyd” ac yn bygwth peryglu dyfodol sawl un o fewn y diwydiant, yn ôl un ffermwr amlwg.

Cyhuddodd Gareth Wyn Jones, sydd yn ffermio defaid ger Llanfairfechan, y siopau mawr o geisio gwneud elw ychwanegol ar draul cynhyrchwyr er bod prisiau wedi disgyn yn ddiweddar.

Cadw’r elw

Yn ôl Gareth Wyn Jones, sydd wedi cyhoeddi hunangofiant ac wedi cyflwyno cyfres deledu ei hun ar BBC Wales am y gadwyn fwyd yng Nghymru, mae prisiau ŵyn 30% yn llai nag oedden nhw’r llynedd.

Ond dyw’r archfarchnadoedd ddim wedi gostwng eu prisiau nhw ar y silffoedd yn sgîl hynny, ac mae’n teimlo fod hynny’n twyllo’r ffermwyr yn ogystal â’r siopwyr.

“I fi mae hynny’n bechod achos tase nhw’n [gostwng y prisiau] fe fuasai’r cwsmer yn cael mwy o fargen a bysa mwy yn dod nôl i brynu cig oen, a fysa fo’n codi yn ei werth i bobl ac i ni fel diwydiant,” meddai Gareth Wyn Jones.

“Mae’r archfarchnadoedd wedi addo i ni ar ôl y blynyddoedd diwethaf [ar ôl sgandal y cig ceffyl] eu bod nhw am fod yn gefn i ni amaethwyr Cymru [ond] beth ‘da ni’n gweld ydi eu bod nhw’n mewnforio lot mwy o gig oen eleni nac maen nhw wedi’i wneud erioed.

“Wel os mai dyna ydi cefnogaeth i ni fel diwydiant, mae o’n chwerthinllyd.”

Mwy o brotestio

Yn ôl Gareth Wyn Jones mae “teimladau cryf” ymysg llawer o ffermwyr ar y mater, ac mae angen ymgyrchu er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r trafferthion.

“Mae’n amser i ni fel diwydiant sefyll fyny. Nid swnian, ond rhoi gwybod i’r cyhoedd beth mae’r archfarchnadoedd yn ei wneud.

“Cynhyrchu bwyd i bobl eraill ydan ni fel diwydiant ar ddiwedd y dydd, ond y bobl yn y canol sydd yn tagu pethau a chymryd yr hufen i gyd.”

Newid labeli

Mae angen i’r llywodraeth wneud mwy, meddai, i hybu cynnyrch lleol wrth wario ar fwydydd o Gymru mewn ysgolion, ysbytai, carchardai a’r fyddin.

Mynnodd y ffermwr hefyd bod angen i archfarchnadoedd wneud mwy i labelu cig o Brydain yn glir, fel ei bod hi’n haws i bobl ddewis cynnyrch lleol os mai dyna maen nhw eisiau gwneud.

“Ewch i unrhyw archfarchnad ac mae’r label ar gig o Seland Newydd a chig o Brydain mor debyg, dydi o ddim yn iawn. Fe welwch chi ‘packed in the UK’ neu ‘processed in the UK’, mae cymaint o wahaniaethau,” meddai Gareth Wyn Jones.

“Dylai fod ‘na ryw colour coding ar y pecynnau [i’w gwneud hi’n fwy amlwg], rhywbeth fel coch i gynnyrch tramor a gwyrdd i gynnyrch o Brydain – mae o’n swnio’n rhywbeth mor hawdd.

“Mae ‘na ormod o fewnforio, ac os ‘da ni’n parhau i fewnforio fel ydan ni, a cholli amaethwyr yng nghefn gwlad, pwy a ŵyr be sydd rownd y gornel? ‘Da ni ddim yn cynhyrchu digon [fel gwlad] i fod yn hunangynhaliol.”