Gardd Fotaneg Cymru
Mae cam cyntaf cynllun gwerth £6.7 miliwn i adfer tirwedd hanesyddol Rhaglywiaethol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin wedi cael sel bendith.

Y bwriad yw datgelu tarddiad Neuadd Middleton, yr ystâd 568 erw y mae’r Ardd yn rhan ohoni, ac i edrych ar ddylanwad dros 250 mlynedd o Gwmni India’r Dwyrain a fu’n gyfrifol am dirwedd y rhan hon o Gymru.

Yn dilyn cais gan Bennaeth Datblygu’r Ardd, Rob Thomas, cyhoeddwyd heddiw y bydd yr Ardd yn derbyn £300,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect i adfer y tir i’w gyfnod Rhaglywiaethol (Regency) a gwneud gwaith archeolegol.

Ar ddiwedd y prosiect, mae gobaith y bydd yr Ardd unwaith eto yn cynnwys cadwyn o saith llyn, rhaeadrau, sgydau a llifddorau yn ogystal â’r cynllun plannu a ffurfiodd galon y parcdir.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi croesawu mwy na 2.2 miliwn o ymwelwyr ers agor 14 mlynedd yn ôl.

‘Arwyddocaol’

Dywedodd Cyfarwyddwraig yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Dr Rosie Plummer, fod y prosiect yn un “uchelgeisiol” ac “arwyddocaol”:

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol, a’r fenter fwyaf arwyddocaol ers agor yr Ardd yn 2000. Fe fydd e nid yn unig yn rhoi gwerth parhaol i’r rhan hon o Gymru, ond bydd e hefyd yn anrhydeddu gweledigaeth wreiddiol a dyfalbarhad William Wilkins, a holl sylfaenwyr eraill yr Ardd.”

Gan siarad ar ran Llywodraeth Cymru, croesawodd y Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, y newyddion: “Bydd stori hynod o ddiddorol Middleton yn atseinio o amgylch y byd – a daw’r stori o Gymru, gyda phobol Cymru a Chymry Cymraeg yng nghalon y stori.

“Mae llwyddiant y prosiect yn cynrychioli gorchest i’n Gardd Fotaneg Genedlaethol, ac ry’n ni’n disgwyl yn eiddgar am y cyfle i wylio ei ddatblygiad.”

Ychwanegodd Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, fod y cyhoeddiad yn newyddion ardderchog i’r Ardd, y Sir a’r rhanbarth.

“Mae twristiaeth yn greiddiol i Sir Gaerfyrddin, ac mae’n werth mwy na £330 miliwn y flwyddyn i’r Sir. Bydd hyn yn ychwanegiad pwysig i gynnig treftadaeth enfawr y Sir i ymwelwyr Sir Gaerfyrddin a’r rhanbarth, cynnig sy’n dal i dyfu,” meddai.