Llwybr Arfordir Cymru
Mae ap newydd wedi cael ei lansio yn y bwriad o geisio annog mwy o bobol i ymweld â thraethau ac arfordir Cymru.

Dyma’r unig ap sydd yn cynnwys manylion am 153 o draethau Cymru ac mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd y traeth dan sylw, pa wobrau enillodd y traeth, pa gyfleusterau sydd yno ar gyfer y cyhoedd a pha fath o fywyd gwyllt ac atyniadau hanesyddol sydd gerllaw.

Fe all cerddwyr hefyd fesur hyd y daith a graddiant y rhan honno o’r Llwybr yn ogystal â derbyn manylion am y tywydd ac amserlenni’r llanw.

Cafodd yr ap ei ddatblygu ar ran Cadwch Gymru’n Daclus, gydag arian gan Croeso Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Economi

Mae Sue Rice, Rheolwr Prosiect Llwybr Arfordir Cymru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn  gobeithio y bydd yr ap yn hybu’r economi:

“Mae’n ffordd wych o annog pobol i fynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i weld y wlad a mwynhau’r awyr agored er lles eu hiechyd,” meddai Sue Rice.

“Mae’r ymwelwyr â’r Llwybr yn hwb mawr i’r economi hefyd, sef oddeutu £32m y llynedd. Y gobaith yw y bydd yr ap yn annog eraill i ddod i ddarganfod harddwch ein gwlad.”

Gellir lawrlwytho Ap Arfordir Cymru i ffonau symudol neu dabledi o’r Apple App Store neu’r Android Play Store.