Mae grant gwerth £10,000 wedi galluogi tref yn Eifionydd i gynnal wythnos o ddigwyddiadau i ddynodi canrif ers diwedd y Rhyfel Mawr.

Flwyddyn yn ôl, fe dderbyniodd Cyngor Tref Cricieth y grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y prosiect, ‘Cofio Cyfraniad Cricieth’.

Mae wedi bod yn bartneriaeth rhwng y cyngor tref ac ysgolion lleol dros gyfnod o flwyddyn, ac arddangosfa sydd wedi’i chreu gan y gymuned leol ar y testun ‘Heddwch’.

Penllanw

“Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous o weithio,” meddai Dr Catrin Jones, clerc Cyngor Tref Cricieth.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o gael Ffion Gwyn yn rheolwr prosiect ac wedi gwneud lot o waith celf.

“Mae gweithdai wedi bod gyda phlant yr ysgol gynradd a Choleg Meirion Dwyfor, ac rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o gael artistiaid lleol fel Gwyneth Glyn a Twm Morys i wneud gweithdai gyda’r plant.

“Penllanw [yw’r wythnos] o weithgaredd anhygoel sydd wedi cymryd blwyddyn i ddwyn ffrwyth.”

Y digwyddiadau

Fe ddechreuodd yr wythnos gydag agoriad swyddogol yr arddangosfa yn Neuadd Goffa Cricieth ddydd Sadwrn (Tachwedd 4), sydd ar agor bob dydd yr wythnos hon rhwng 11yb a 3yp.

Y Neuadd Goffa hefyd oedd y lleoliad ar gyfer digwyddiad arbennig nos Fercher (Tachwedd 7) yng nghwmni rhai o actorion y ffilm Hedd Wyn, yn cynnwys Huw Garmon, Judith Humphreys, Ceri Cunnington, Llio Silyn a Grey Evans.

Yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ddiwedd yr wythnos (Tachwedd 9 a 10) wedyn, roedd darlith gan Dr Kim Howells ar gelf y Rhyfel Mawr ac adroddiad o araith David Lloyd George yn cyhoeddi diwedd y Rhyfel gan Twm Morys.

Diweddglo i’r wythnos fydd cyfres o ddigwyddiadau yn y Neuadd Goffa heddiw (Sl y Cofio), cyn y seremoni ffagl goleuni ar y prom yng Nghricieth.

Dyma glip o Dr Catrin Jones yn sôn ymhellach am ‘Cofio Cyfraniad Cricieth’…