Mae Pwyllgor Apêl Cyncoed, Pen-y-lan, Y Rhath a Cathays wedi bod yn brysur yn codi arian, gan gynhyrchu siampên a chwrw ei hun yn arbennig at brifwyl y brifddinas.

Bu’r pwyllgor o ddeg o bobol yn gweithio gyda busnesau bychan yr ardal, ac mae’r cadeirydd, Rhian Williams o Ben-y-lan yn dweud bod llawer o’r cwmnïau hynny bellach yn defnyddio mwy o Gymraeg.

“Fe wnaethon ni ambell i beth mawr fel yna oedd yn bethau mwy uchelgeisiol, neu’n fwy gwahanol ond hefyd fe wnaethon ni drio gwneud yn siŵr bod ni’n gwneud y pethau oedd yn ymgysylltu’n lleol,” meddai wrth golwg360.

“Y pethau hynny yn y diwedd sy’n golygu y bydd yna gobeithio rhyw fath o waddol.

“Mae’n debyg mai’r un peth sydd yn wahanol rŵan ydy’r ffaith bod ni wedi creu cysylltiadau efo busnesau lleol ac wedi trafod y Gymraeg efo nhw.

“Mae hwnna rŵan yn dir ffrwythlon, er enghraifft i swyddog busnes Menter Caerdydd i symud ymlaen a gwneud gwaith efo nhw i ddatblygu hynny ymhellach.

“Alla’ i feddwl am sawl un o’r busnesau lleol oedd yn falch iawn o gynnal digwyddiadau Cymraeg ac yn gynyddol uniaethu eu hunain efo hynny, lle ‘falle ar y dechrau bod nhw ddim mor siŵr be’ oedd yr Eisteddfod.

“Y gwaddol r’yn ni’n gobeithio amdano fo wrth gwrs ydy bydd modd i ni barhau i gynnal digwyddiadau yn lleol yn yr ardal yma, yn y Gymraeg.

“Fydd yn golygu bod yna gyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg a bod y Gymraeg i’w chlywed yn gymdeithasol yn yr ardal yma, yn y dwyrain achos mae mwy o bethau’n digwydd yn y gorllewin a’r de erbyn hyn.”

Cinio mawreddog i fusnesau

Fe wnaeth cinio mawreddog Santes Dwynen y pwyllgor ar gyfer 220 o bobol busnes godi bron i £11,000 a’r bwriad oedd targedu pobol oedd ddim fel arfer yn mynd i ddigwyddiadau Cymraeg a heb fawr o gysylltiad gyda’r iaith.

“Beth oeddem ni’n trio gwneud drwy hwnnw… bod ni’n trio ymgysylltu efo busnesau Caerdydd i godi eu diddordeb nhw yn y Gymraeg ac yn yr Eisteddfod,” meddai Rhian Williams.

“Oedd yna bobol wedi dod oedd ddim yn gwybod dim byd am yr Eisteddfod a dim o reidrwydd yn hyrwyddo’r Gymraeg ond wedi cael agoriad llygad ac wedi mynd o yna yn teimlo’n bositif ac yn gefnogol.

“Roeddwn ni’n bwrpasol ddim wedi targedu’r Cymry Cymraeg sy’n troi i fyny i bob peth, roeddwn ni’n targedu pobol eraill hefyd oedd yn gwybod dim byd neu efallai’n llugoer.”