Mae’r Aelod Seneddol dros Geredigion, Ben Lake, wedi cyflwyno mesur yn San Steffan heddiw a fydd yn sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaethau ariannol sylfaenol wedi i fanciau cau.

Mae’r Aelod dros Geredigion wedi penderfynu gweithredu wrth i fanciau benderfynu cau eu canghennau mewn cymunedau gwledig ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan adael cwsmeriaid a busnesau cefn gwlad mewn “sefyllfa tu hwn o dywyll”.

Fe fydd y bil yn ei gwneud yn anoddach i fanciau cau eu canghennau felly, wrth iddo gyflwyno newidiadau cyfreithiol a fydd yn diogelu’r cwsmer.

Tair elfen

Fel rhan o’r Mesur, mae Ben Lake yn galw am greu ‘Canolfannau Bancio Lleol’, a fydd yn golygu bod mwy nag un banc yn medru rhan safle a swyddogaethau gweinyddol.

Mae hefyd yn galw bod banciau sy’n ystyried cau yn gorfod rhoi ystyriaeth i’r pellter teithio mae’r cwsmer yn gorfod cymryd er mwyn cyrraedd y gangen agosaf.

A phan fo banciau’n cau wedyn, mae’n dweud y dylai Llywodraeth San Steffan fuddsoddi mwy mewn swyddfeydd post fel bod cwsmeriaid yn medru defnyddio eu gwasanaeth nhw mewn cyfnod o angen.

Rhwystro banciau rhag cau

“Wrth gyflwyno’r dair elfen a amlinellir yn y Bil, gallwn sicrhau na all banciau ddiflannu’n rhwydd o’n cymunedau, a lle nad oes banc yn bodoli eisoes, gall cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt yn haws drwy’r Swyddfa Bost,” meddai Ben Lake.