Creu rhannau i dacsis Llundain ym Medwas, Caerffili (Llun: Sapa Components UK)
Mae cwmni o Norwy wedi cyhoeddi eu bod am ailagor ffatri ar safle ym Medwas ger Caerffili gan greu 130 o swyddi newydd.

Daw hyn wrth i’r cwmni Sapa Components UK ennill cytundeb i adnewyddu tacsis Llundain a’u gwneud yn well i’r amgylchedd.

Fe fyddan nhw’n creu rhannau alwminiwm ar gyfer model y TX-5 fydd yn disodli’r cabiau du, disel.

Mae buddsoddiad y cwmni werth £9.6 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cefnogaeth o £550,000 er mwyn dod â’r gwaith i Gymru.

Cabiau ecogyfeillgar                                                          

Fe fyddan nhw’n ailagor y safle ym Medwas a hynny ar ôl ei gau yn 2014, ond roedd Sapa yn parhau i fod yn berchennog arno.

“Dwi’n falch bod SAPA yn ailagor ei ganolfan ym Medwas, ac yn falch y bydd Cymru yn chwarae rhan allweddol trwy gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o gabiau du ecogyfeillgar,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

Ychwanegodd Calvin Carpenter ar ran Sapa Components fod hwn yn “ddiwrnod da” am ei fod yn “benllanw ar bron i 3 mlynedd o gydweithio gyda London Taxi trwy ei gyfnod datblygu i’n galluogi i ddarparu cydrannau pwysig ar gyfer cerbydau i’r ganolfan fodern yn Ansty, Coventry.”