Safle Aston Martin, Sain Tathan (Llun: PA)
Mae cwmni Aston Martin wedi cyhoeddi dêl masnach a buddsoddi gwerth £500 miliwn rhwng y Deyrnas Unedig a Siapan.
Mae disgwyl bydd safle newydd y cwmni yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, a’i safle yn Gaydon yng ngorllewin canolbarth Lloegr, yn elwa o’r ddêl.
Cyhoeddodd y cwmni’r llynedd eu bod yn bwriadu adeiladu ei model DMX newydd yn Sain Tathan o 2020 ymlaen. Bydd y safle yn cyflogi 750 o bobol.
Cafodd y dêl ei chyhoeddi yn gan Brif Weithredwr Aston Martin yn ystod taith Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, i Japan ddydd Mercher (Awst 30).
“Uniongyrchol o fudd”
“Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n oll bwysig ein bod yn cryfhau ein cysylltiadau â’n cyfeillion a’n cynghreiriaid,” meddai Theresa May.
“Mae Aston Martin yn esiampl dda o’r cwmnïau arloesol a penigamp rydym yn falch ohono yn y Deyrnas Unedig, a dw i’n falch eu bod yn ymuno â mi ar yr ymgyrch fasnach yma.”
“Bydd dêl £500 miliwn Aston Martin yn uniongyrchol o fudd i safle Gaydon a safle Sain Tathan yng Nghymru, gan ddiogelu swyddi sydd eisoes yn bodoli.”