Llun: PA
Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi cytuno i dalu dirwy o £4.2 biliwn am ei ran mewn cynllun i werthu morgeisi mentrus oedd yn ganolbwynt i’r argyfwng ariannol.

Cytunodd RBS ar y setliad gydag Asiantaeth Cyllid Tai Ffederal (FHFA) yr Unol Daleithiau ac yn sgil talu ad-daliadau bydd y ddirwy yn costio £3.6 biliwn i’r banc.

Er gwaethaf maint y ddirwy roedd RBS wedi rhoi £6 miliwn i’r neilltu er mwyn setlo’r bil.

Mae disgwyl y bydd y banc yn derbyn dirwy arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan Adran Gyfiawnder America.

Yn ôl Prif Weithredwr RBS, Ross McEwan, mae’r ddirwy yn “gam pwysig” ac yn ein “hatgoffa o’r hyn ddigwyddodd i’r banc cyn yr argyfwng ariannol.”