Llun: PA
Mae arweinwyr busnes wedi codi pryderon am effaith yr ansicrwydd gwleidyddol presennol ar yr economi.

Yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD – Institute of Directors) mae eu pôl cyntaf ers yr Etholiad Cyffredinol yn arddangos “cwymp dramatig” o ran hyder.

Maen nhw’n awgrymu fod cyfarwyddwyr busnes yn rhagweld nad oes modd i ddatrys y sefyllfa wleidyddol yn sydyn ac yn credu y byddai etholiad arall eleni yn cael “effaith negyddol” ar economi’r Deyrnas Unedig.

‘Canlyniadau annisgwyl’

“Mae busnesau wedi dangos yn y flwyddyn ddiwethaf eu bod nhw’n wydn i ganlyniadau annisgwyl, ond maen nhw’n awr wedi’u taflu i limbo gwleidyddol,” meddai Stephen Martin, Cyfarwyddwr yr IoD.

“Mae’r bunt wedi disgyn yn ôl y disgwyl ers y newyddion am senedd grog, ond mae’r rhan fwyaf o fusnesau ym Mhrydain eisiau gweld a allai llywodraeth sefydlog gael ei ffurfio yn fuan,” meddai.

“Y peth diwethaf mae arweinwyr busnes eisiau ydy Senedd wedi’i pharlysu, ac fe allai’r canlyniadau ar fusnesau Prydain a gweddill y Deyrnas Unedig fel lle i fuddsoddi fod yn ddifrifol.”