Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi canmol gwaddol rownd derfynol cystadleuaeth bêl-droed Cynghrair y Pencampwyr i Gymru.

Cafodd y gêm fwyaf yng nghalendr clybiau Ewrop ei chynnal yn Stadiwm Principality nos Sadwrn ddiwethaf, a Real Madrid yn fuddugol o 4-1 yn erbyn Juventus.

Hwn oedd y digwyddiad mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghaerdydd, gyda mwy na 200 miliwn o bobol yn gwylio’r gêm mewn mwy na 200 o wledydd, a thorf o 66,000 yn y stadiwm.

Roedd 170,000 o bobol yng nghanol y ddinas ar noson y gêm ar gyfer Gŵyl y Pencampwyr ym Mae Caerdydd.

Cafodd y trefniadau ar gyfer y digwyddiad eu cydlynu gan staff y stadiwm, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, UEFA, Heddlu’r De, Llywodraeth Cymru a phartneriaid dinesig.

Dywedodd Martyn Phillips fod cynnal y gêm wedi sicrhau lle i Stadiwm Principality ar y llwyfan byd-eang.

“Mae record Stadiwm Principality a Chymru am gynnal rhai o’r achlysuron chwaraeon mwyaf yn y byd wedi cyrraedd uchelfannau nad ydyn nhw wedi eu cyrraedd o’r blaen gyda llwyddiant anferth rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd dros y penwythnos.”

Ychwanegodd fod cynnal y gêm yn “uchelgeisiol” ond bod y ddinas “wedi cyflawni wrth i’r byd wylio”.

Dathlu llwyddiant

Ychwanegodd Martyn Phillips fod rheswm i ddathlu’r llwyddiant yng Nghaerdydd yn dilyn y pryderon a fu ynghylch diogelwch ar ôl yr ymosodiadau brawychol diweddar.

“Yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod trasig a heriol i bobol y DU, mae tipyn wedi cael ei ddweud am y misoedd o gynllunio cydweithredol, ymrwymiad a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud er mwyn sicrhau bod digwyddiad ar y raddfa hon yn gofiadwy am y rhesymau cywir.

“Mae ei lwyddiant, felly, yn fwy o reswm i ddathlu. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi creu gwaddol chwaraeon ardderchog i’r stadiwm ac i Gymru.”

Digwyddiadau i ddod

Fe fydd nifer o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn y stadiwm dros yr wythnosau i ddod, gan gynnwys cyngerdd Robbie Williams (Mehefin 21), cyngerdd Justin Bieber (Mehefin 30) a chyngerdd Coldplay (Gorffennaf 11), ynghyd â rasys beics y Speedway Grand Prix (Gorffennaf 22).

Bydd tîm rygbi Cymru’n dychwelyd i’r stadiwm ar gyfer cyfres yr hydref, sy’n dechrau ar Dachwedd 11 gyda gêm yn erbyn Awstralia, a bydd Cymru hefyd yn herio Georgia, Seland Newydd a De Affrica.