Dydi’r cwmni sy’n berchen ar bapur newydd Y Cymro ddim mewn sefyllfa i wneud sylw ar ddyfodol y cyhoeddiad, na chadarnhau os oes prynwr ai peidio.

Ond mae llefarydd Tindle Newspapers wedi awgrymu wrth golwg360 y gallai fod rhywbeth i’w ddweud “tua diwedd y mis”.

Dim ond pedwar rhifyn o’r papur fydd yn cael eu cyhoeddi eto gan Tindle, cyn y dedlein a gyhoeddwyd ar gyfer gwerthu’r teitl.

Y si yw fod pedwar grŵp wedi dangos diddordeb yn yr wythnosolyn, ond dyw dyfodol y cyhoeddiad ddim yn glir o gwbwl ar hyn o bryd.

Y cefndir

Fe ddaeth cyhoeddiad gan Tindle Newspapers ym mis Mawrth fod y papur ar werth, ac fe gafodd cyfarfod ei gynnal yn Nolgellau ddiwedd mis Mawrth gan un grwp o fuddsoddwyr oedd yn awyddus i “achub” Y Cymro.

Cafodd nifer o bosibiliadau eu trafod bryd hynny – o’i gadw’n bapur newydd wythnosol ar bapur a’r we, i geisio sefydlu papur dyddiol digidol.

Ysgogydd y cyfarfod oedd Gruff Meredith, oedd wedi pwysleisio’r angen i gael y papur yn ôl mewn dwylo Cymreig annibynnol; a llywydd y cyfarfod oedd un o golofnwyr Y Cymro, Iestyn Jones.

Hanes y papur

Am y rhan fwyaf o’i oes, fe fu’r Cymro yn cael ei gyhoeddi yn Lloegr, gan Bapurau Newydd Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt.

Y farn gyffredinol yw ei fod wedi cael oes aur yn yr 1950au dan olygyddiaeth John Roberts Williams, gyda honiadau fod y gwerthiant ymhell tros 20,000 bryd hynny.

Ers mwy na degawd mae wedi bod yn eiddo i gwmni mawr Tindle Newspapers, sydd hefyd yn berchnogion ar bapur lleol y Cambrian News a thros 200 o deitlau eraill ledled Lloegr a Gogledd America. Nhw ydi perchennog cyhoeddiadau Saesneg y Brecon & Radnor Express, County Echo a’r Glamorgan Gem yng Nghymru hefyd.