Mi fydd Gŵyl y Pencampwyr, sy’n dechrau’n swyddogol heddiw, yn gyfle i filoedd ddathlu a mwynhau yng Nghaerdydd… ond i dafarndai a chlybiau’r brifddinas mae penwythnos prysur ar y gweill.

Mae disgwyl i filoedd heidio i Gaerdydd ar gyfer yr ornest rhwng Real Madrid a Juventus yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn, a bydd 200 miliwn yn gwylio’r rownd derfynol ar deledu.

Er bod tafarn y Mochyn Du wedi ei leoli i ffwrdd o galon y ddinas mae staff yn ffyddiog fydd y bwrlwm yn sicr o orlifo i bob man yng Nghaerdydd.

“Dydy hi ddim yn brysur heno ond mi fydd hi’n benwythnos prysur iawn i ni,” meddai’r dyn bar Wil o’r Mochyn Du wrth golwg360. “Bydd hi’r un peth â gêm rygbi ond gydag ychydig yn fwy o fois Sbaenaidd.

“Bydd gyda ni fwydlen lai na’r arfer ac wrth gwrs rydym ni wedi archebu swm anferthol o gwrw. Yr un nifer a fyddai ar gyfer gêm rygbi mawr ond ychydig yn fwy o win.”

Gwirfoddolwyr

Mae bar Brewdog wedi ei leoli gyferbyn â’r stadiwm cenedlaethol, ac mae’r Is-Reolwr yn dweud eu bod eisoes wedi profi cynnwrf yr ŵyl.

“Rydym wedi archebu’n fwy na’r arfer oherwydd bod nifer o bobol wedi cyrraedd y ddinas o flaen llaw ac mae gwirfoddolwyr y bencampwriaeth wedi bod yn dod yma am y pedair noson ddiwethaf,” meddai Craig Sutherland.

Mae Brewdog wedi dyblu’r nifer o staff sydd yn gweithio dros y penwythnos.

“Bydd hi’r un mor brysur â gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr. Dydyn ni ddim yn siŵr os fyddwn yn apelio i’r ffans Sbaeneg ac Eidalaidd ond dw i’n gobeithio bydd y lle’n orlawn,” meddai Craig Sutherland.

“Y lle’n llawn”

Mae stryd Westgate a Stryd y Castell ar gau, a chludo offer bandiau yn hytrach na chwrw sydd ar feddwl Cyfarwyddwr Hyrwyddol Clwb Ifor Bach, Richard Hawkins.

“Rydym wedi bod yn gwneud yn siŵr does dim un band yn chwarae dydd Gwener. Mi fydd band yn chwarae dydd Sadwrn ond ry’ ni wedi cael gafael ar eu hoffer yn barod.”

Bydd mesurau diogelwch llymach yn gwneud hi’n anoddach i bobol gyrraedd Clwb Ifor Bach meddai Richard Hawkins, ond mae’n gobeithio y “bydd y lle’n llawn”.