Fe dyfodd economi Prydain wedi tyfu’n llai na’r disgwyl yn ystod misoedd cyntaf eleni, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau cynyddodd cynnyrch domestig gros (GDP) gan 0.2% yn ystod tri mis cyntaf 2017 – llai na’r 0.3% yr oedd arbenigwyr wedi rhagweld.

Mae’n debyg mai pwysau ar y diwydiant gwasanaethau a’r lefel chwyddiant uchaf mewn pedair blynedd, oedd yn bennaf gyfrifol am gynnydd llai na’r disgwyl.

Cynnydd a chwymp

“Gwnaeth diwydiannau sydd yn delio â chwsmeriaid gan gynnwys diwydiannau siopau a gwestai weld cwymp, ac mi ddisgynnodd gwariant,” meddai adroddiad y Swyddfa Ystadegau.

“Roedd hyn yn rhannol oherwydd prisiau yn cynyddu. Bu ychydig o gynnydd o fewn diwydiannau adeiladu a chynhyrchu, ac mi wnaeth sectorau busnes a chyllid dyfu’n gryf.”