Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn “falch iawn” ar ôl i’w dîm lwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Roedd yr Elyrch ar waelod y tabl pan gafodd y Sais ei benodi dros y Flwyddyn Newydd, ar ôl diswyddo Francesco Guidolin a Bob Bradley yn hanner cynta’r tymor.

Ond fe lwyddodd Paul Clement i’w codi nhw i sefyllfa lle’r oedd modd dianc gydag un gêm yn weddill – ac mae’n siŵr y bydd tipyn o barti yn Stadiwm Liberty yr wythnos nesaf ar gyfer gêm ola’r tymor yn erbyn West Brom.

Ar ôl curo Sunderland o 2-0 brynhawn ddoe, roedd yr Elyrch yn gwybod fod buddugoliaeth i Crystal Palace yn golygu mai Hull fyddai’n disgyn i’r Bencampwriaeth.

Ac fe drechodd Palace Hull o 4-0 amser cinio heddiw.

Dywedod Paul Clement: “Dw i’n falch iawn o’r hyn ry’n ni wedi ei gyflawni yn ail hanner y tymor, yn enwedig pan y’ch chi’n rhoi hynny yng nghyd-destun lle’r oedden ni pan ddes i yma – ar waelod y tabl gyda 12 pwynt o 19 o gemau.

“Mae pawb wedi ymdrechu yn y clwb; felly llongyfarchiadau i’r chwaraewyr, y staff cynorthwyol, staff y clwb ac yn sicr ein cefnogwyr am eu cymorth wrth i ni groesi’r llinell.

“Ro’n i wir yn credu y byddai hi’n mynd i gêm ola’r tymor. Ond chwarae teg i’r chwaraewyr am ddangos y perfformiadau dros y pedair gêm ddiwethaf i ennill 10 pwynt allan o 12.

“Maen nhw’n haeddu bod lle maen nhw – yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair unwaith eto.”