Mae Prif Weithredwr ITV, Adam Crozier wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu ar ôl saith mlynedd yn y swydd.
Fe fydd yn gadael ei swydd ar Fehefin 30, a bydd enw ei olynydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Cyn ymuno â’r darlledwr, fe fu’n bennaeth ar Saatchi & Saatchi, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a’r Post Brenhinol.
Ers iddo fod yn bennaeth ITV, mae pris cyfrannau’r darlledwr wedi codi dros 200% wrth iddyn nhw symud oddi wrth hysbysebion i ddibynnu ar greu a gwerthu sioeau poblogaidd i ddarlledwyr eraill.
Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd ITV, Syr Peter Bazalgette fod Adam Crozier “wedi gwneud cyfraniad ffantastig i ITV”, gan dalu teyrnged i’w “arweinyddiaeth gref a’i ymroddiad personol”.
Llenwi’r bwlch
Bydd Syr Peter Bazalgette bellach yn Gadeirydd Gweithredol, tra bydd Ian Griffiths yn derbyn swydd Prif Swydd Gweithredol a Chyfarwyddwr Cyllid.
Fe fydd cwmni Spencer Stuart yn arwain y broses o benodi pennaeth newydd.
Mae disgwyl i Adam Crozier fynd i weithio yn y sector preifat.
Dywedodd ei fod yn “falch eithriadol o’r hyn ry’n ni wedi’i gyflawni wrth droi ITV yn un o’r busnesau cyfryngau a chynnwys mwyaf llwyddiannus a deinamig yn y byd”.
Llwyddiannau a methiannau
O dan arweiniad Adam Crozier, mae refeniw ITV wedi tyfu o fwy nag £1b, tra bod enillion wedi codi 338%.
Ond eleni, cyhoeddodd ITV ei ostyngiad cyntaf ers 2009 mewn refeniw hysbysebion, ond roedd elw cyn treth y darlledwr yn £847m yn 2016, i fyny o £843m y flwyddyn gynt.
Mae lle i gredu y gallai ymadawiad Adam Crozier olygu bod ITV yn chwilio am brynwr.
Mae cyfranddaliadau’r darlledwr i lawr o dan 1% yn ystod y prynhawn yn dilyn y newyddion am Adam Crozier.