Mae Grwp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi y bydd yn cau mwy na chant o ganghennau ledled Prydain, ac y bydd 200 o swyddi’n cael eu colli o’r herwydd.

Fe fydd y cam hwn yn effeithio 54 o ganghennau Lloyds ei hunan; 22 o ganghennau’r gymdeithas adeiladu Halifax; ynghyd â 24 o ganghennau’r Bank of Scotland.

Mae undeb Unite wedi beirniadu’r penderfyniad gan Grwp Bancio Lloyds, gan ddweud bod ceisio gorfodi’r cyhoedd i fancio ar y we yn anghywir. Mae nifer fawr o gwsmeriaid yn dal i ddymuno cael gwasanaeth wyneb yn wyneb gyda staff proffesiynol sy’n deall eu maes, meddai’r undeb.

“Mae’n rhaid i’r diwydiant roi’r gorau i gynlluniau cau canghennau,” meddai Unite, “a sylweddoli yr effaith y mae hyn yn ei gael ar gymunedau, ar gwsmeriaid anabl, ac ar fusnesau bychain sy’n dibynnau ar y gangen leol.”