Mae gan gwmni Travelodge gynlluniau i agor pymtheg o westai newydd ledled gwledydd Prydain eleni, gan greu dros 300 o swyddi.

Mae’r ardaloedd targed yn cynnwys Llundain, Caerfaddon, Inverness, West Bromwich a Chaerefrog, ac fe fydd yn mynd â chyfanswm gwestai Traveloge i fwy na 570.

Y nod, meddai datganiad gan Travelodg, ydi bod buddsoddwyr eraill yn cynnwys gwestai yn eu datblygiadau – yng nghanol canolfannau siopau ac fel rhan o gynlluniau datblygu canolfannau hamdden.