Caerdydd o'r awyr (Llun: CCA1.0)
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd wrthod cynlluniau i godi mosg newydd yng Nghaerdydd – am yr ail waith mewn ychydig dros flwyddyn.
Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno gan Gymdeithas Foslemaidd Ahmadiyya i droi adeilad Ian Williams yn Nhreganna yn fosg.
Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu gwrthod fis Chwefror y llynedd yn sgil pryderon am y ffyrdd o amgylch yr adeilad.
Cais newydd
Mae’r cynlluniau newydd yn gofyn am fosg dau lawr, gan gynnwys llety i’r imam.
Yn ôl y gymdeithas, fe fyddai’r adeilad yn addoldy, ond hefyd yn cynnig gofod ar gyfer addysg, hyfforddiant, codi arian a digwyddiadau cymunedol.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys ystafell weddi i ferched, llyfrgell, meithrinfa a thoiledau.
Mae 150 o drigolion lleol, gan gynnwys tri chynghorydd lleol, wedi gwrthwynebu’r cynlluniau.
Mae disgwyl penderfyniad gan y cyngor ddydd Mercher.