Mae cyfarfodydd yn ffatri Ford, Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau pryderon am ddyfodol 1,100 o swyddi, yn ôl undeb y GMB.

Fe fu’r cwmni’n cynnal cyfarfodydd ag undebau a staff ddydd Mercher, wedi i adroddiad cudd cael ei ddatgelu yn awgrymu bod bwriad gwaredu hyd at 1,160 swydd yn y ffatri.

Er nad yw’r cwmni wedi datgelu llawer ynglŷn â’u cynlluniau, mae llefarydd ar ran Ford wedi awgrymu gall fod lleihad yn y gweithlu wedi tair blynedd.

Yn dilyn eu cyfarfod dywedodd trefnydd GMB,  Jeff Beck: “Ein blaenoriaeth yw amddiffyn swyddi ein haelodau. Fe fyddwn yn trafod gyda nhw ynglŷn â sut i ymateb i’r newyddion torcalonnus yma.”

Mae Downing Street wedi cadarnhau bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cynnal trafodaethau gyda chwmni Ford.

Taith i Detroit

Mae’r blaid Geidwadol yng Nghymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i ddychwelyd o’i daith i’r Unol daleithiau er mwyn ymateb i’r broblem.

“Mae’r sefyllfa wedi bod yn ein hwynebu ers Mehefin ac wrth ymyl etholaeth Prif Weinidog Cymru. Mae’r newyddion yma yn peri gofid i’r gweithwyr a’u teuluoedd, sydd wedi bod yn wynebu ansicrwydd am eu dyfodol ers misoedd,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Russell George.

Hyd yma yn lle gweithredu mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymateb â rhethreg wag. Mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru dod ac unrhyw gynlluniau yn Washington i ben, a theithio i Detroit er mwyn siarad â gweithredwyr Ford.”

Sicrwydd ôl-Brexit

“Mae’r adroddiadau heddiw am ddyfodol ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn fy mhryderu. Mai angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud yn siŵr bod sicrwydd i sector gynhyrchu a diwydiannau eraill wrth i ni baratoi am Brexit,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r wrthblaid, Christina Rees.