Mae archfarchnad Morrisons wedi galw cig eidion yn ôl yn dilyn pryderon fod bacteria yn y cynnyrch a allai achosi i gwsmeriaid deimlo effeithiau ffliw.

Mae gofyn i gwsmeriaid sydd wedi prynu darnau cig eidion puprog – ‘Ready to Eat Peppered Beef Slices’ – ddychwelyd yr eitemau yn dilyn rhybudd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Gall sgil effeithiau’r bacteria gynnwys symtomau ffliw, gan gynnwys tymheredd uchel, poen yn y cyhyrau, cyfogi a dolur rhydd.

Mewn achosion mwy difrifol, fe all achosi meningitis.

Ymhlith y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf mae pobol oedrannus, menywod beichiog, plant mis oed a phobol sydd â chyflwr sy’n taro’u systemau imiwnedd.

Dywedodd Morrisons y byddai cwsmeriaid yn derbyn eu harian yn ôl.