Gwaith Port Talbot (Llun PA)
Mae gweithwyr cwmni dur Tata wedi pleidleisio i dderbyn amodau pensiwn newydd er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd y cwmni yng ngwledydd Prydain.
Mae hynny’n cynnwys nifer o weithfeydd yng Nghymru, yn arbennig y gwaith dur mawr ym Mhort Talbot.
Mae’r bleidlais yn golygu y bydd y gweithwyr yn gweld gostyngiad o tua 10% yn eu pensiynau ond roedd hynny’n angenrheidiol yn ôl y cwmni er mwyn iddyn nhw allu buddsoddi £1biliwn yn y gweithfeydd.
Yr ymateb
Ym marn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae’r newyddion yn gam mawr at sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Mae wedi addo cydweithio gyda Tata ac wedi galw ar Lywodraeth Prydain i daclo problem prisiau tanwydd i gynhyrchwyr dur.
Yn awr mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraethau Cymru a Phrydain weithredu i gefnogi’r diwydiant, gydag addewid i ddefnyddio dur Tata mewn cytundebau cyhoeddus a thrwy osgoi Brexit ‘caled’.
‘Aberthu’
Yn ôl yr Aelod Cynulliad tros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins, roedd gweithwyr heddiw wedi aberthu eu hunain er mwyn gweithwyr y dyfodol.
Ac yn ôl llefarydd economaidd y Blaid, Adam Price, roedd cyfaddawdu munud ola gan y cwmni wedi helpu i ennill y bleidlais.
Roedd gan reolwyr lleol weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y diwydiant yng Nghymru, meddai.