Cwmni bysys, GHA Coaches, Riwabon ger Wrecsam Llun: Gwefan GHA Coaches
Mae uwchgynhadledd yn cael ei gynnal yn Wrecsam heddiw i geisio gwella’r diwydiant bysiau yng Nghymru.

Dyma’r gynhadledd gyntaf o’i fath gan Lywodraeth Cymru lle mae arbenigwyr busnes a thrafnidiaeth yn dod ynghyd, gyda’r brif araith gan Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates.

Mae’r gynhadledd yn ymateb i gyfnod ansicr o fewn y diwydiant bysiau, gyda haf 2016 wedi gweld dau gwmni yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe gyhoeddodd y cwmni GHA o Riwabon, Wrecsam ym mis Gorffennaf 2016 eu bod yn dod i ben gyda thua 320 yn colli eu swyddi.

Yn yr un modd, ym mis Awst 2016, fe gafodd cwmni bysiau arall o Geredigion eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr, sef cwmni Lewis Coaches o Lanrhystud oedd yn cynnal y gwasanaeth rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.

Amcan yr uwchgynhadledd yw edrych ar “atebion mwy tymor hir er mwyn sicrhau diwydiant bysus mwy cynaliadwy yng Nghymru.”

Byddant yn ystyried rôl yr awdurdodau lleol, partneriaid cyflenwi a defnyddwyr bysiau.