Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y nifer o ymwelwyr tramor o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Arolwg Teithwyr Rhyngwladol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fe wnaeth 856,000 o deithwyr tramor ymweld â Chymru yn ystod 9 mis cynta’ 2016.
Mae hyn yn gynnydd o 12% o’i gymharu ag ystadegau 9 mis cyntaf 2015 – y cynnydd uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Hefyd yn ystod yr un cyfnod o amser mae gwariant ymwelwyr tramor â Chymru wedi cynyddu 9%.
Ewrop a Gogledd America
Roedd 70% o ymwelwyr y Deyrnas Unedig yn ystod naw mis cyntaf 2016 yn dod o Ewrop, gyda chyfanswm o 594,000 ohonynt yn dod i Gymru.
Mae’r nifer o Ewropeaid sydd yn ymweld â Chymru wedi cynyddu 10% a’r nifer o bobol o Ogledd America wedi cynyddu 9%, o gymharu â naw mis cyntaf 2015.
“Ein nod yw cynnal y ffigurau gwych hyn, a hefyd anelu at gynyddu ein cyfran o’r farchnad o ymwelwyr o dramor i’r Deyrnas Unedig,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.