Dylai gweithwyr dur Tata wrthod y cynllun pensiwn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price.

Mae hefyd wedi galw am wladoli’r diwydiant dros dro ac ail-agor y broses o werthu rhannau Prydeinig y busnes.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ddiwedd y mis i benderfynu a fydd gweithwyr yn derbyn y cynllun neu beidio.

‘Manteisio’

Mae Adam Price wedi cyhuddo Tata o fanteisio ar weithwyr gyda’u cynnig.

Ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Adam Price fod yr amodau sy’n cael eu cynnig yn “annerbyniol”.

“Mae’r hinsawdd economaidd y mae’r diwydiant dur yn ei hwynebu yn 2017 wedi cal ei thrawsffurfio mewn modd radical.

“Mae’r rhagolygon tymor canolig wedi gwella ac mae proffidioldeb wedi dychwelyd i Bort Talbot.”

‘Rhy ffafriol i Tata’

Yn ôl Adam Price, mae’r amodau sy’n cael eu cynnig yn rhy ffafriol i Tata, gyda’r “buddsoddiad blynyddol o £1 biliwn yn ddibynnol, mae’n debyg, ar Tata Steel UK yn gwneud elw o £200 miliwn bob blwyddyn”.

Mae e hefyd yn cyhuddo’r cwmni o “geisio cerdded i ffwrdd oddi wrth ei gyfrifoldeb” i’r gweithwyr sydd wedi talu i mewn i’r cynllun pensiwn, ac o “ddefnyddio digwyddiadau’r 12 mis diwethaf i roi pwysau ar weithwyr i dderbyn yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn gytundeb annerbyniol”.

Ychwanegodd y dylid gwladoli Tata pe na bai’n fodlon gwarchod buddiannau’r gweithwyr, ac y dylid ail-ddechrau’r broses o werthu’r cwmni i un o’r cwmnïau sydd eisoes wedi dangos diddordeb.