Mae elw Sports Direct, wedi gostwng yn sylweddol yn dilyn cyfres o achosion dadleuol ynghylch y cwmni.

Ond dyw’r newyddion heb atal y biliwnydd, Mike Ashley, sy’n berchen ar y siop rhag prynu awyren jet i’r cwmni.

Fe aeth elw’r cwmni i lawr 33.5% i £145.3 miliwn yn hanner cynta’r flwyddyn, gan ostwng ymhellach cyn trethi 57% i £71.6 miliwn.

Mae rhan o’r bai yn mynd at gwymp y bunt yn syth ar ôl i wledydd Prydain benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r ymgyrch “eithafol” yn erbyn y cwmni, yn ôl y cadeirydd, Keith Hellawell.

“Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd i’n pobol a’n perfformiad,” meddai Mike Ashley.

Dywedodd y cwmni fod ei refeniw wedi codi 14% i £1.6 biliwn, ond ychwanegodd y bydd yna hinsawdd heriol yn dal i fod dros y “dyfodol agos.”

Awyren gwerth £40 miliwn

Mae’r canlyniadau’n dangos hefyd bod Sports Direct wedi prynu awyren gorfforaethol oedd yn costio £40 miliwn.

Mae hyn yn ychwanegol i hofrennydd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan “uwch reolwyr, staff a’n partneriaid busnes yn gyson.”

Mae’r newyddion yn dod yn dilyn ymchwiliad i’r cwmni gan Aelodau Seneddol dros amodau gwaith gwael o fewn y cwmni.