(llun; PA)
Mae’r Canghellor Philip Hammond ar fin cyhoeddi’r camau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd i geisio rhwystro twyllwyr rhag dwyn pensiynau pobl hŷn.

Yn ei ddatganiad yr hydref ddydd Mercher, fe fydd yn cyflwyno gwaharddiad ar unrhyw alwadau digymell ynglŷn â phensiynau.

Ers i bobl dros 55 oed gael mwy o ryddid ar sut i wario eu pensiynau ym mis Ebrill y llynedd, mae pryder bod miliynau o bobl hŷn yn cael eu targedu gan dwyllwyr.

Mae twyllwyr wedi bod yn ffonio pobl hŷn, yn cynnig adolygiad ‘am ddim’ o’u cronfa bensiwn ac arbedion treth ychwanegol.  Yn aml maen nhw’n cynnig ‘cyfleoedd buddsoddi’ twyllodrus sy’n arwain at bensiynwyr yn colli’r cyfan o’u cynilion oes.

Y gred yw bod cyfanswm o £19 miliwn wedi cael ei golli i dwyllwyr pensiynau rhwng Ebrill 2015 a Mawrth 2016.

Gobaith llywodraeth Prydain yw rhoi stop ar hyn trwy wahardd unrhyw alwadau lle nad oes cysylltiad blaenorol â darpar gwsmeriaid.