Llun: PA
Mae’r Post Brenhinol wedi cael ei gyhuddo o ganiatáu i filoedd o lythyrau o dwyll gael eu hanfon at  yr henoed a phobol fregus dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae ymchwiliad cudd gan y Daily Mail yn honni bod sgamwyr yn anfon llythyrau hefo logo’r Post Brenhinol arnynt gan arwain at bobol yn colli biliynau o bunnau’r flwyddyn.

Mae’r papur newydd yn gweld bai ar y gwasanaeth am beidio â chymryd camau i atal y sgâm, er ei fod wedi derbyn rhybuddion ers mwy na degawd.

Wrth daro nôl, mae’r Post Brenhinol wedi dweud ei fod yn anghyfreithlon iddo agor llythyrau ac y byddai gwneud hynny yn codi pryderon mawr am breifatrwydd.

Ymchwiliad

Fe ddylai’r gwasanaeth fod yn cymryd camau i archwilio swmp mawr o lythyrau er mwyn mynd i’r afael a thwyll, yn ôl y Farwnes Ros Altmann sy’n gyn-weinidog gwladol ar bensiynau.

Ond yn ôl llefarydd o’r gwasanaeth, fe fyddai’n anodd gwahaniaethu rhwng llythyrau dilys a rhai anghyfreithlon:

“Yn union fel na fyddai papurau newydd yn cyhoeddi hysbysiadau i hybu gwerthiant cynnyrch neu weithgarwch anghyfreithlon, dyw’r Post Brenhinol ddim yn delio a llythyrau sgâm yn fwriadol.”

Credir bod twyllwyr yn talu cwmni i brintio llythyrau gyda logo’r Post Brenhinol, sy’n gwneud i lythyr edrych yn ddilys.

Mae’r Daily Mail wedi cyflwyno rhestr o gwmnïau sy’n cael eu hamau o’r drosedd ac fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan dîm y Safonau Masnach Cenedlaethol.