Mae disgwyl oedi ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin y penwythnos nesaf ar ôl i gerosîn ollwng.

Mae angen gwneud gwaith atgyweirio ar frys ar ôl i’r cerosîn ollwng i’r afon ger Nant-y-caws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am eu hymateb araf i’r digwyddiad, ond roedd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Lesley Griffiths ar y safle ddydd Sadwrn.

Mae hi wedi rhoi gwybod i aelodau’r Cynulliad fod y gwaith i ddatrys y sefyllfa’n debygol o fod yn fwy na’r disgwyl ar y dechrau.

Dywedodd fod hyd at 140,000 litr wedi gollwng, a bod traean yn dal ar y ffordd.

Mae rhan o’r ffordd ynghau i’r dwyrain ar hyn o bryd.

Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd y gwaith yn cael effaith negyddol ar economi’r ardal leol.